Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (98)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiwn Brys 1 Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr oedi cyn cyflwyno Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, a’r goblygiadau posibl i bobl sy’n derbyn budd-dal y Dreth Gyngor.
|
Cwestiwn Brys 2 Byron Davies (Gorllewin De Cymru) A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am golli 580 o swyddi yn Tata Steel yn Ne Cymru.
|
Cwestiwn Brys 3 Aled Roberts (Gogledd Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ffyrdd sydd wedi’u cau yn ddiweddar oherwydd llifogydd yng Ngogledd Cymru.
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cyflwyno Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) (60 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ardaloedd Menter - TYNNWYD YN ÔL |
5. Datganiad gan y Prif Weinidog ar Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru - TYNNWYD YN ÔL |
6. Dadl ar Adroddiad Blynyddol Datblygu Cynaliadwy (60 munud) NDM5102 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi cynnydd a wnaed mewn perthynas â
datblygu cynaliadwy yn 2011-12, fel yr amlinellir yn Adroddiad
Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a
osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 20 Tachwedd
2012. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith bod Adroddiad Blynyddol y Cynllun Datblygu Cynaliadwy wedi’i gyhoeddi, ac yn arbennig sylwadau’r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi argymhellion y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar waith, er mwyn sicrhau y rhoddir digon o sylw i feysydd fel amaethyddiaeth, diogelu'r cyflenwad bwyd a thwristiaeth yn y dyfodol. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi beirniadaeth y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy fod ‘rhai rhannau o’r adroddiad i’w gweld yn hyrwyddo arian a ddyrennir ac a werir ar gynlluniau yn hytrach na hyrwyddo’r canlyniadau a’r manteision i gynaliadwyedd sy’n deillio o’r cynlluniau hynny’, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y modd y mae’n asesu llwyddiant rhaglenni Llywodraeth Cymru ar draws pob adran, yn seiliedig ar ganlyniadau yn hytrach nag ar fewnbwn. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o gynnydd at Gymru gynaliadwy os gwnaiff sicrhau bod mwy o’r canlynol ar gael: a) rhaglenni
effeithlonrwydd ynni cartref fel Arbed; Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i drydanu, a’r effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar leihau allyriadau CO2 Cymru. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn mynegi pryder nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o gynnydd at wella ei Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy yn 2012. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Llywodraeth i ddod â chamau unioni ymlaen ar frys i adfer y 22 Dangosydd Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2012 sydd wedi dirywio neu nad ydynt wedi gwella. Gellir gweld
Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2012 yn: Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod y prif ddangosydd Gwerth Ychwanegol Crynswth, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, yn cyfateb i 74% o gyfartaledd y DU yn 2010, yr isaf o blith y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr. Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu na ddefnyddir llawer ar ddangosyddion economaidd yn yr adroddiad i ystyried llwyddiant polisi Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pryderon parhaus y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr adroddiad. Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r argymhellion a wneir yn yr adroddiad gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar waith yn llawn.
|
7. Cynnig i atal Rheol Sefydlog 12.20(i) ac 11.16 i gynnal trafodaeth ar Gomisiwn Silk (5 munud) NDM5107 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a’r cyhoeddiad wythnosol yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5108 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 27 Tachwedd 2012.
|
8. Dadl ar yr adroddiad gan Gomisiwn Llywodraeth y DU, Comisiwn Silk (60 munud) NDM5108 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad gan Gomisiwn Llywodraeth y DU, Comisiwn Silk, y cafwyd cytundeb unfrydol arno, ac mae’n edrych ymlaen at ei roi ar waith.
Gallwch weld adroddiad y Comisiwn Silk drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2012/11/Welsh-WEB-main-report.pdf
|
Cyfnod Pleidleisio |
9. Dadl Fer (30 munud) NDM5083 Nick Ramsay (Mynwy): Asbestos mewn ysgolion: Datgelu’r wybodaeth yn hytrach nag atal hawl rhieni i gael gwybod amdani. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 28 Tachwedd 2012